Ffocws Budd Cymunedol / Gwerth Cymdeithasol NWCP
Nid yw Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru (NWCP) yn ymwneud â brics a morter yn unig. Nod NWCP yw creu effaith gadarnhaol barhaus ochr yn ochr ag adeiladau a seilwaith newydd.
Mae Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru wedi datblygu prosesau cydweithio cryf gyda chleientiaid, contractwyr, darparwyr cymorth cyflogaeth a sefydliadau gwirfoddol/mentrau cymdeithasol i fynd i’r afael â nifer o themâu Cenedlaethau’r Dyfodol gan gynnwys Cymru fwy ffyniannus, Cymru fwy cyfartal, cymunedau cydlynol a diwylliant Cymreig bywiog. . Trwy ganolbwyntio ar fuddion i’r gymuned leol, mae’r NWCP yn mynd y tu hwnt i brosiectau adeiladu.
Gyda ffocws cynyddol ar gyflawni llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trwy’r ffordd y mae’r Sector Cyhoeddus yn rheoli ei weithgareddau caffael. Mae NWCP yn cryfhau partneriaeth gymdeithasol drwy nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ogystal â chyflawni yn erbyn ei nodau.
Mae Tîm NWCP yn rheoli amrywiaeth o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i sicrhau bod Contractwyr ar y Fframwaith yn bodloni’r safonau priodol.
Mae Sicrhau Budd Cymunedol/Gwerth Cymdeithasol yn ganolog i NWCP, gyda’r bwriad o ddatgloi effeithiau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ehangach yn ôl y disgwyl drwy Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), https://www.llyw.cymru/cymdeithasol -deddf partneriaeth-a-chaffael-cyhoeddus-cymru- , fel y cyfryw bydd pob prosiect a gaffaelir drwy NWCP yn cynnwys Budd Cymunedol/Gwerth Cymdeithasol, a DPA eraill.