Ysgol y Faenol, Bangor
Wynne AdeiladuPenodwyd Wynne Construction gan Gyngor Gwynedd, i ymestyn ac adnewyddu Ysgol y Faenol, Penrhosgarnedd gan gynyddu capasiti’r ysgol gynradd o 186 i 315 o ddisgyblion gan gynnwys gwaith allanol a thirlunio.
Dechreuodd prosiect Ysgol Y Faenol ym mis Mai 2020 a llwyddodd y gweithlu a’r gadwyn gyflenwi i oresgyn yr heriau a gyflwynwyd gan y pandemig COVID-19, i barhau i weithio mewn amgylchedd diogel gan ystyried lles holl weithwyr y safle.
Fe wnaethom barhau i gyflwyno gweithgareddau gwerth cymdeithasol ac ymgysylltu trwy gyflwyniadau rhithwir ar-lein gyda dysgwyr o Goleg Menai, tudalen Facebook prosiect bwrpasol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned, ac ar ôl i’r ysgol ail-agor sicrhau ein bod yn cynnal yr holl ofynion ymbellhau cymdeithasol gyda’r staff a’r disgyblion. yn ystod y prosiect safle “byw” hwn.