Ysgol Glan Clwyd – Canolfan Gymraeg
Adeiladwyr TG Williams CyfYn dilyn penodiad llwyddiannus y contractwr adeiladu TG Williams, mae gwaith bellach wedi dechrau ar safle’r Ganolfan Gymraeg newydd a fydd wedi’i lleoli o fewn yr hen adeilad bloc gwyddoniaeth ar safle Ysgol Glan Clwyd. Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru a Chyllid Cyfalaf ar gyfer Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar.
Bydd gwaith adnewyddu helaeth yn cael ei wneud i drawsnewid yr hen floc gwyddoniaeth yn ganolfan a fydd yn darparu darpariaeth Gymraeg i bob oed gan gynnwys, disgyblion cyn-ysgol, cymorth i hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg yn CA 2 a 3, cyfleuster ar gyfer datblygu Adnoddau Iaith Gymraeg a chanolfan bosibl ar gyfer partneriaid darparu’r Gymraeg. Yn ogystal, bydd yr adeilad yn lleoliad ar gyfer cyflwyno cyrsiau sabothol gan Brifysgol Bangor a fydd yn hybu sgiliau iaith athrawon.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, “Bydd y Ganolfan Iaith Gymraeg hon yn gaffaeliad gwych i’r awdurdod ac yn safle allweddol ar gyfer cefnogi cyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Ddinbych 2017 – 2020. Mae’r cynllun hwn yn nodi gweledigaeth ac ymrwymiad hirdymor i weld pob plentyn a pherson ifanc yn Sir Ddinbych sy’n gadael addysg amser llawn yn gymwys ac yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y Ganolfan hefyd yn adnodd hanfodol i helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050.”