Return to all

Canolfan Groeso Wrecsam

Adeiladwyr TG Williams Cyf

Mae Canolfan Gwybodaeth Ymwelwyr (VIC) newydd Wrecsam bellach wedi agor ei drysau’n swyddogol i’r cyhoedd.

Lansiwyd y cyfleuster, sydd wedi’i leoli ar Stryt Caer, ddiwedd mis Awst ac mae bellach ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10am a 4pm.

Ei nod yw arddangos yr hyn sydd ar gael ar draws y fwrdeistref sirol a darparu gwybodaeth a chymorth i bobl leol a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal.

Yn ogystal â chyfleusterau i gyfeirio ymwelwyr at yr hyn sydd gan y sir i’w gynnig, mae gan y VIC newydd hefyd ‘ofod hyblyg’ sydd wedi’i gynllunio ar gyfer digwyddiadau fel arddangosiadau bwyd a gweithdai yn ogystal â gofod swyddfa i fyny’r grisiau.

Symudodd y ganolfan i Stryt Caer o Sgwâr y Frenhines yn 2021, ar ôl i’r gwaith o greu cyfleuster newydd o’r radd flaenaf ar gyfer ymwelwyr a thwristiaid gael ei gwblhau. Mae’r enw wedi newid o ganolfan groeso hŷn ‘TIC’, i fwy o ffocws ar ymwelwyr – felly VIC. Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Bydd y VIC yn adnodd gwych i drigolion ac ymwelwyr, a rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn i agor y cyfleuster hwn.

Gallery

In summary

Sector

Adeilad Cyhoeddus

Local authority

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Contractor

Adeiladwyr TG Williams Cyf

Value

£209k

Form of Contract

Contract Adeiladu Mân Waith JCT

Client

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Download Case Study