Beth yw NWCP?
Rheolir y Fframwaith gan Bartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru. Y Fframwaith Cydweithredol cyntaf yn y rhanbarth, a grëwyd ar y cyd gan chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, ac a gynhelir gan Gyngor Sir Ddinbych, sefydlwyd y Fframwaith i ddarparu gwerth am arian a’r buddion sy’n gysylltiedig â pherthynas gydweithredol hirdymor.
Bydd y fframwaith yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno ystod o brosiectau mawr ar draws Gogledd Cymru gyda gwerth cyfunol o hyd at £600 miliwn a bydd yn cynnwys adeiladau ysgol newydd, prosiectau sector cyhoeddus eraill a thai cymdeithasol.
Mae NWCP wedi ymrwymo i gaffael sy’n gymdeithasol gyfrifol, a disgwylir y bydd prynwyr a chontractwyr ar y Fframwaith yn sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol tra’n sicrhau’r gwerth gorau am arian am y bunt Gymreig.